The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 81

1I’r Pencerdd ar Sosannim Edith, Salm Asaff. Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid.

2Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.

3Dychwel ni, O DDUW, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

4Oarglwydd DDUW y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl?

5Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.

6Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun.

7Odduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

8Mudaist winwydden o’r Affft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.

9Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.

10Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.

11Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon.

12Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi?

13Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr.

14Odduw y lluoedd, dychwel, atolwg, edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon;

15A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.

16Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.

17Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i i ti dy hun.

18Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw.

19Oarglwydd DDUW y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

← Llyfr y Salmau 80Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 82 →

Study Llyfr y Salmau 81

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150