The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 6

1I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd. Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.

2Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf.

3Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.

4Oherwydd nid wyt ti DDUW yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.

5Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd.

6Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus.

7A minnau a ddeuaf ith dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di.

8ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.

9Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod.

10Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn.

11Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.

12Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.

← Llyfr y Salmau 5Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 7 →

Study Llyfr y Salmau 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150