The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 42

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd.

2Yr ARGLWYDD a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.

3Yr ARGLWYDD a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.

4Mi a ddywedais, ARGLWYDD, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.

5Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha.

7Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.

8Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.

9Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.

10Eithr ti, ARGLWYDD, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.

11Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.

12Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.

13Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW; Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.

← Llyfr y Salmau 41Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 43 →

Study Llyfr y Salmau 42

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150