The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 133

1Caniad y graddau. O ARGLWYDD, cofia Dafydd, a'i holl flinder;

2Y modd y tyngodd efe wrth yr ARGLWYDD, ac yr addunodd i rymus DDUW Jacob:

3Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, Ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;

4Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na hun i'm hamrantau,

5Hyd oni chaffwyf le i’r ARGLWYDD preswylfod i rymus DDUW Jacob.

6Wele, clywsom amdani yn Effrata; cawsom hi ym meysydd y coed.

7Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.

8Cyfod, ARGLWYDD, i'th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.

9Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.

10Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.

11Tyngodd yr ARGLWYDD mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc.

12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.

13Canys dewisodd yr ARGLWYDD Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.

14Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd; yma y trigaf; canys chwenychais hi.

15Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.

16Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.

17Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.

18Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.

← Llyfr y Salmau 132Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 134 →

Study Llyfr y Salmau 133

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150