The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 64

1Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda. Ti, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y'th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;

2I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y'th welais yn y cysegr.

3Canys gwell yw dy drugaredd di na'r bywyd: fy ngwefusau a'th foliannant.

4Fel hyn y'th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.

5Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar

6Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.

7Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.

8Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.

9Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.

10Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.

11Ond y Brenin a lawenycha yn NUW: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

← Llyfr y Salmau 63Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 65 →

Study Llyfr y Salmau 64

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150