The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 52

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba. Trugarha wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd:, yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.

2Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.

3Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod rydd yn wastad ger fy mron.

4Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.

5Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

6Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.

7Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.

8Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.

9Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.

10Crea galon lân ynof, O DDUW; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.

11Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.

12Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi.

13Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.

14Gwared fi oddi wrth waed, O DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15ARGLWYDD, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant.

16Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.

17Aberthau DUW ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi.

18Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerusalem.

19Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.

← Llyfr y Salmau 51Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 53 →

Study Llyfr y Salmau 52

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150