The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 117

1Da gennyf wrando ar ARGLWYDD ar fy llef, a'm gweddïau.

2Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.

3Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant: ing a blinder a gefais.

4Yna y gelwais ar enw yr ARGLWYDD; Atolwg, ARGLWYDD gwared fy enaid.

5Graslon yw yr ARGLWYDD, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.

6Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

7Dychwel, O fy enaid, i'th orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.

8Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.

9Rhodiaf o flaen yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.

10Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.

11Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.

12Beth a dalaf i’r ARGLWYDD, am ei holl ddoniau i mi?

13Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr ARGLWYDD y galwaf.

14Fy addunedau a dalaf i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.

15Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei saint ef.

16ARGLWYDD, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.

17Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr ARGLWYDD.

18Talaf fy addunedau i’r ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,

19Yng nghynteddoedd tŷ yr ARGLWYDD, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 116Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 118 →

Study Llyfr y Salmau 117

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150