The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 61

1I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen. DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.

2Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.

3Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.

4Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.

5Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.

6DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

7Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.

8Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.

9Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom?

10Onid tydi, DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O DDUW, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd?

11Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.

12Yn NUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

← Llyfr y Salmau 60Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 62 →

Study Llyfr y Salmau 61

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150