The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 106

1Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

2Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.

3Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD.

4Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.

5Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;

6Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.

7Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.

8Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:

9Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac;

10A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;

11Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

12Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:

13Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall:

14Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;

15Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

16Galwodd hefyd am newyn ar y tir a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.

17Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.

18Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:

19Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.

20Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a rhyddhaodd ef.

21Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:

22I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethhineb i’w henuriaid ef.

23Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.

24Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr.

25Trodd eu calon hwynt i gasâu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.

26Efe a anfonodd Moses ei was; a Aaron, yr hwn a ddewisasai.

27Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

28Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

29Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod.

30Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

33Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif;

35Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

36Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.

37Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.

38Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.

39Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos.

40Gofynasant, ac efe a ddug soffleir; ac a’u diwallodd â bara nefol.

41Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

42Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

43Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.

44Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.

45Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cyhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 105Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 107 →

Study Llyfr y Salmau 106

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150