The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 27

1Dafydd. Barn fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf.

2Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi: chwilia fy arennau a’m calon.

3Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

4Nid eisteddais gyda dynion coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af.

5Caeais gynulleidfa y drygionus; a chyda’r annuwiolion nid eisteddai.

6Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf:

7I gyhoeddi â llef clodforedd, ac i fynegi dy holl ryfeddodau.

8ARGLWYDD, hoffais drigfan dy dŷ, a lle preswylfa dy ogoniant.

9Na chasgl fy enaid gyda phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd:

10Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau.

11Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.

12Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD. 7 Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn.

13Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.

14Disgwyl wrth yr ARGLWYDD: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 26Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 28 →

Study Llyfr y Salmau 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150