The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 26

1Dafydd. Atat ti, O ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.

2O fy NUW, ynot ti yr ymddiriedais; na'm gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf

3Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.

4Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy lwybrau.

5Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd

6Cofia, ARGLWYDD, dy dosturiaethau a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

7Na chofia bechodau fy ieuenctid na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, ARGLWYDD.

8Da ac uniawn yw yr ARGLWYDD: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.

9Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.

10Holl lwybrau yr ARGLWYDD ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.

11Er mwyn dy enw, ARGLWYDD, maddau fy anwiredd: canys mawr yw.

12Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r ARGLWYDD? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.

13Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear.

14Dirgelwch yr ARGLWYDD sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt.

15Fy llygaid sydd yn wastad ar yr ARGLWYDD: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd.

16Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.

17Gofidiau fy nghalon a hel aethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau.

18Gwêl fy nghystudd a’m helbul, a maddau fy holl bechodau.

19Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant.

20Cadw fy enaid, ac achub fi: na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.

21Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthy.

22Odduw, gwared Israel o’i holl gyfyngderau.

← Llyfr y Salmau 25Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 27 →

Study Llyfr y Salmau 26

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150