The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 116

1Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.

2Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt?

3Ond ein DUW, ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.

5Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:

6Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:

7Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf.

8Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

9O Israel, ymddiried di yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.

10Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.

11Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe eu porth a'u tarian.

12Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni: efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.

13Bendithia efe y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion.

14Yr ARGLWYDD a'ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a'ch plant hefyd.

15Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear.

16Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr ARGLWYDD: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.

17Y meirw ni foliannant yr ARGLWYDD, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.

18Ond nyni a fendithiwn yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 115Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 117 →

Study Llyfr y Salmau 116

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150