The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 49

1feibion Cora. Mawr yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW yn ei fynydd sanctaidd.

2Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.

3DUW yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.

4Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.

5Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.

6Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor.

7Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

8Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela.

9Meddyliasom, O DDUW, am dy drugaredd yng nghanol dy deml.

10Megis y mae dy enw, O DDUW, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyfiawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.

11Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.

12Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.

13Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl.

14Canys y DUW hwn yw ein DUW ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau. 1 I’r Pencerdd,

← Llyfr y Salmau 48Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 50 →

Study Llyfr y Salmau 49

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150